Sgint
gan Bethan Marlow
Pan fo’r esgid yn gwasgu, pwy sy’n dioddef fwyaf? A phwy sydd ar fai? Pwy all newid petha? Yr athro, yr Aelod Seneddol, yr entrepreneur, y fam sengl?
Daw’r ddrama air am air hon o enau pobl go iawn, sy’n dioddef cynni go iawn, ac eraill sy’n ei osgoi. Mae’n taflu golwg onest, di-flewyn-ar-dafod ar y wasgfa economaidd ddiweddar, ac ar y freuddwyd am fywyd gwell. Ond oes gwell i ddod?
Dewch i gyfarfod rhai o’r cymeriadau isod…




